English Cymraeg magnifying glass sign post

Dewis Saesneg neu Gymraeg

ar y safle wefan hon

English English | Cymraeg Cymraeg

Cymraeg

Mae rhai tudalennau o’r wefan hon ar gael naill ai yng Nghymraeg neu Saesneg. Mae dwy ffordd o edrych ar y tudalennau yn eich iaith ddewisedig.

  1. Gellwch glicio ar fflag eich dewis yng nghornel uchaf ochr dde'r tudalennau dwyieithog.
  2. Gellwch orchymyn eich porwr i ddewis yr iaith gywir yn awtomatig. I wneud hyn, rhaid i chwi ofalu fod ganddo’r gosodiadau cywir. A siarad yn gyffredinol, rydych yn gwneud hyn trwy gynnwys Saesneg (ên) a/neu Gymraeg (cy) yn yr ieithoedd a ddewiswyd gan eich porwr.

Os ydych yn siarad amryw o ieithoedd bydd eich porwr yn caniatáu i chwi eu trefnu yn ôl blaenoriaeth. Ble y gwelir tudalennau gwe mewn nifer o ieithoedd, fe ymddengys y cynnwys yn yr iaith uchaf ei blaenoriaeth sy’n cydweddu a’ch dewis.

Dyma sut i osod yr ieithoedd ar eich porwr gwe.

Defnyddio Firefox

  1. Yn Firefox, ar y ddewislen Offer, cliciwch ar Ddewisiadau’r Rhyngrwyd
  2. Ar y tab Cyffredinol, cliciwch Ieithoedd.
  3. Dewiswch yr iaith yr ydych am ychwanegu.
  4. Cliciwch Ychwanegu.
  5. Caewch y deialogau trwy glicio ddwywaith ar OK.

Ceir manylion manwl external link ar y we.

Defnyddio Internet Explorer

  1. Yn Internet Explorer, ar y ddewislen Offer, cliciwch Dewisiadau’r Rhyngrwyd.
  2. Ar y tab Cyffredinol, cliciwch Ieithoedd
  3. Dewiswch yr iaith yr ydych am ychwanegu.
  4. Cliciwch Ychwanegu.
  5. Caewch y deialogau trwy glicio deirgwaith ar OK.

Bydd manylion manwl ar gael yn yr help ar-lein.

Defnyddio Porwyr Eraill

A fuasech mor garedig â chyfeirio at eich dogfennaeth porwyr? Efallai yr hoffech gysylltu â mi os oes gennych awgrymiadau a fuasai’n ychwanegu i’r dudalen hon.

Gweld y Nodau Cywir

Gan fod y We Fyd Eang yn caniatáu amrediad eang o wyddorau, mae’n bosib y bydd angen gosod y nod amgodio a ddisgwylir gan eich porwr. Dylai eich porwr gyflawni hyn yn awtomatig, ond os oes raid i chwi ei ddiystyru, defnyddir UTF-8 ar y wefan hon.